| 1 |
Dylid anfon erthyglau i’w hystyried ar gyfer cyhoeddi at: y Golygyddion, Cymru a’r Môr, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH. |
| 2 |
Gall erthyglau fod yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond dylid rhoi crynodeb Saesneg gydag unrhyw erthygl Gymraeg. |
| 3 |
Gall erthyglau fod hyd at 8000 o eiriau neu yn nodiadau byrion hyd at 1000 o eiriau. Dylid cyflwyno dau gopi wedi’u teipio gyda gofod dwbl ac ymylon llydan a chopi ar ddisg hefyd (Windows 3.1, 9X, 2000, XP os oes modd). |
| 4 |
Dylai lluniau fod yn rhai du a gwyn os oes modd ac mae angen i unrhyw fapiau neu luniadau fod o leiaf ddwywaith maint yr hyn a fydd yn cael ei cynhyrchu. Nid yw’n cyllideb yn ddigon helaeth i ganiatáu cael tudalennau mawr y gellir eu tynnu allan. Dylai unrhyw benawdau a.y.b. fod ar y ddisg gyda’r prif destun a chopi hefyd gyda’r lluniau. Dylid rhoi unrhyw gydnabyddiaeth mewn cromfachau. |
| 5 |
Rhaid clirio unrhyw faterion hawlfraint neu gopïo gyda’r awdur. |
| 6 |
Dylid nodi cyfeiriadau yn ôl ‘System Harvard’ os oes modd, h.y. rhoi enw’r awdur a’r dyddiad cyhoeddi mewn cromfachau yng nghorff y testun a rhoi’r cyfeiriad manwl ar ddiwedd yr erthygl gyda’r awduron wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Er enghraifft, McKee E., Working Boats of Britain, Llundain 1983 fyddai’r cyfeiriad manwl a’r cyfeiriad yng nghorff y testun fyddai (McKee 1990). Gyda chyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn, dylid rhoi teitl yr erthygl mewn dyfynodau, enw’r cyfnodolyn mewn llythrennau italig, a dylid nodi rhif y gyfrol, y man cyhoeddi, y dyddiad a rhifau’r tudalennau. Noder y dylai teitlau llyfrau ac erthyglau fod mewn llythrennau italig. |
| 7 |
Mae troednodiadau fel a geir mewn cyfrolau blaenorol yn dderbyniol ond byddant yn cael eu disodli’n raddol yn ystod yr ychydig gyfrolau nesaf gan y system a amlinellir ym mharagraff 6. |
| 8 |
Dylai awduron nodi’r pwyntiau a ganlyn yng nghyswllt arddull:
- Dylai enwau llongau fod mewn llythrennau italig neu dylid tanlinellu er mwyn dynodi llythrennau italig.
- Nid oes angen atalnodau llawn gyda byrfoddau e.e. ‘HMS’ neu ‘J Smith’.
- Mae’n well defnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn hytrach na’r rhai Saesneg cyfatebol.
- Dylid nodi mesuriadau mewn troedfeddi a modfeddi a nodi’r mesurau metrig cyfatebol mewn cromfachau lle bo modd.
- Dylid ysgrifennu rhifau dan 100 mewn geiriau heblaw mewn tablau a mesuriadau e.e. ‘pedair llong’ ond ‘4 troedfedd 2 fodfedd’.
- Dylid indentio pob paragraff a rhoi is-benawdau mewn print trwm.
- Nid oes angen atalnodi wrth ysgrifennu dyddiadau.
|
| 9 |
Nid oes breindal nac unrhyw daliad arall, ond anfonir copi am ddim at yr awdur o’r gyfrol a gyhoeddir. |
| 10 |
Mae penderfyniad y Golygyddion yn derfynol ar unrhyw lawysgrif a gyflwynir. |