|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Lewis Lloyd, 1939-97: teyrnged gan Bryn ParryRoedd Dr Lewis William Lloyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn ŵr o Feirionnydd, a threuliodd ran helaeth o’i oes yn cofnodi ei gorffennol, ac yn arbennig ei thraddodiad morwrol. Fe’i ganed yn Llundain ym 1939, ond dychwelodd gyda’i deulu i Feirionnydd ym 1953. Cafodd yrfa academaidd lewyrchus. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Sir Abermaw ac Ysgol Ardudwy, Harlech, ac aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Aberystwyth ym 1957, lle’r enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ym 1960. Ar ôl dwy flynedd yn astudio’r Gyfraith yng Nghaer grawnt, treuliodd dair blynedd ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia, Canberra, lle’r enillodd Ph.D. am draethawd arloesol ar gyfraith mwyngloddio Awstralia. Bu’n darlithio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Leeds am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Feirionnydd i swydd Tiwtor (ac yn ddiweddarach Uwch-diwtor) mewn Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Harlech ym 1968. Yn ddarlithydd poblogaidd, fe ymddeolodd ym 1992 ac roedd wedyn yn gallu rhoi’i holl amser i ymchwilio a chyhoeddi. Roedd yn awdur toreithiog, ac ar ôl cyhoeddi astudiaeth gynnar ar hanes Abermaw yn 1974, fe gyhoeddodd Letters from America (gydag Aled Eames a Bryn Parry, 1975), The Unity of Barmouth (1977), The Amity of Aberdyfi (1983), The Brig Susannah of Aberdyfi (1984), The Book of Harlech (1986), Australians from Wales (1988), The Port of Caernarfon (1989), Pwllheli, the Port and Mart of Llyn (1991), Wherever Freights May Offer: the Maritime Community of Barmouth (1993) a De Winton’s of Caernarfon (1994). Cyhoeddwyd ei waith olaf, astudiaeth mewn dwy gyfrol o Aberdyfi, A Proper Little Seaport, ym 1996. Roedd y rhain yn gyfrolau sylweddol mewn mwy nag un ystyr, ac maent yn adlewyrchu record o gyhoeddi cyson heb ei ail, bid siŵr, ym maes astudiaethau hanesyddol morwrol. Hefyd, fe gyhoeddodd nifer fawr o erthyglau mewn amrywiol gylchgronau, gan gynnwys cylchgrawn y Merioneth Historical & Record Society yr oedd yn aelod blaenllaw ohoni. Yn un o sylfaenwyr Cymru a’r Môr/Maritime Wales, fe gyfrannodd yn rheolaidd at y cylchgrawn hwnnw. Roedd ei gyfeillion a’i gydweithwyr yn disgwyl cael ganddo gyhoeddi llyfr ar y Cymry a ymfudodd i America, llyfr yr oedd yn gwneud gwaith ymchwil ar ei gyfer adeg ei farwolaeth. Roedd yn ddiflino yn ei waith yn darlithio i bob math o gymdeithasau, a gwnaeth gyfraniad pwysig ym maes addysg barhaus. Yn ddyn amryddawn, roedd yn adnabyddus am ei garedigrwydd a’i haelioni. Roedd bob amser yn barod i rannu â phawb yr wybodaeth yr oedd wedi’i meistroli ar hyd y blynyddoedd. Roedd yn wir bon viveur, a’i frwdfrydedd yn ei wneud yn gymeriad poblogaidd a lliwgar. Yn anad dim, roedd yn angerddol falch o’i Gymreictod ac o’i wreiddiau yn Ardudwy; byddai’r dyfyniad hwn, yr oedd yn hoff iawn ohono, yn feddargraff addas iawn iddo, ‘Canmol dy fro, a thrig yno’. Mae’i frawd Ellis a’i chwaer Margaret yn dal i fod yn fyw, ac roedd yn ymroddedig iawn i’w teuluoedd. Erthygl gan Dr. Lewis Lloyd: Aberdyfi, its Shipping and its Seamen (1565-1907) |
|
||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||