* * * * * * * * *
Cymru a'r Môr / Maritime Wales Gwasanaeth Archifau Gwynedd English Site
Tudalen Gartref Bwrdd Golygyddol Nodiadau i Gyfranwyr Mynegai Cymru a'r Môr Safleoedd Allanol Cysylltu â Ni

Hanes CymruAa'r Môr

 

Sefydlwyd y cyfnodolyn Cymru a’r Môr/Maritime Wales ym 1976 gan Aled Eames, darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Lewis Lloyd, darlithydd yng Ngholeg Harlech, a Bryn Parry, Archifydd Gwynedd. Roedd sefydlu’r cyfnodolyn yn adlewyrchu’r diddordeb cynyddol yn hanes morwrol Cymru, peth a oedd yn arbennig o fyw yng Ngwynedd ar y pryd, a’r Cyngor Sir a oedd bryd hynny fel heddiw, yn gyfrifol am ei gyhoeddi.

Yn eu herthygl olygyddol agoriadol, fe ddywedodd y golygyddion:


“Byddwn yn ceisio cynnwys amrywiaeth o erthyglau yn Cymru a'r Môr a fydd yn apelio at y lleygwr a'r hanesydd proffesiynol fel ei gilydd, ac a fydd yn trafod gwahanol agweddau ar berthynas dyn â'r môr o gwmpas arfordir Cymru ac y tu hwnt. Y mae cysylltiadau morwrol Cymru â gwledydd ar gyfandiroedd eraill o ddiddordeb arbennig inni. Yn anad dim, byddwn yn ceisio olrhain hanes llongau Cymru ar hyd yr oesau, eu perchnogion, a'r gwŷr (a'r gwragedd) a fu’n eu hwylio. Hyderwn y bydd y cylchgrawn hwn yn fodd i’r rhai hynny sydd â diddordeb personol neu deuluol ym mywyd morwrol Cymru gyfrannu a thrwy hynny ail-greu cymaint â phosibl o’n gorffennol morwrol...”


Erys yr egwyddorion hyn yn wir hyd heddiw.

 

Maritime Wales - Cyfrol 27
Allan Nawr:
Cyfrol 28

Cynnwys Cyfrol 28

 
Allan Rwan:
Cyfrol 28 - Cymru a'r Môr