Aled Eames, 1921-96: teyrnged gan yr Athro Emeritws J. Gwynn Williams
Yn ei ddarlithoedd, a oedd yn cael eu traddodi gydag asbri ac egni, a’r geiriau’n llifo’n helaeth, anogai Aled Eames ddisgynyddion y morwyr i fynd i chwilio mewn cistiau a droriau am lythyrau a lluniau, er mwyn cyfoethogi astudiaethau morwrol drwy gael casgliad da o dystiolaeth ‘o lygad y ffynnon’. Roedd ganddo’r ddawn i dynnu sgwrs â’r capteiniaid môr mwyaf di-sgwrs yn hwyrddydd eu hoes a chael ganddynt dalpiau gwerthfawr o wybodaeth a fyddai fel arall wedi mynd ar goll am byth yn niwl yr amser. Ni fyddai byth yn adrodd stori yn unig, ond yn hytrach yn gwau’r stori i ryw gyfanrwydd ysgolheigaidd. Yng Nghymru, arloesai yn y dull systematig o astudio hanes morwrol, ac mae’i waith yn cael ei werthfawrogi y tu hwn i’r glannau hyn.
Addysgwyd Aled Eames yn Ysgol John Bright, Llandudno ac yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle’r enillodd radd dosbarth cyntaf mewn hanes. Ar ôl cyfnod byr yn y Cyngor Prydeinig ac yna fel athro, fe ddychwelodd i’w hen goleg yn ddarlithydd mewn addysg. Bu am ugain mlynedd yn warden adnabyddus ar Neuadd Reichel, y neuadd breswyl i ddynion. Roedd ganddo berthynas dda gyda’r myfyrwyr, ac roedd yn ddiflino yn ei ofal ohonynt. Ond erbyn diwedd y 1960au, roedd yn amlwg mai astudio mordwyaeth oedd ei ddiddordeb ysol, peth yr oedd yn gymwys iawn i’w wneud.
Ac yntau wedi’i fagu yn Llandudno, roedd yn aml wedi clywed hanesion am y môr, ac yn ystod y rhyfel roedd yn anochel ei fod am ymuno â’r Llynges Frenhinol. Fel swyddog ifanc, roedd ymhlith y milwyr a laniodd yn Normandi a chyfeirir ato ddwywaith mewn adroddiadau o faes y gad am ei ddewrder. Roedd yn siomedig ac yn rhwystredig fod salwch creulon wedi’i rwystro rhag cymryd rhan ym 1994 yn nathliad hanner canmlwyddiant Dydd-D, a oedd iddo ef yn fath o Ddiwrnod Sant Crispin.
Roedd ei adnabyddiaeth lwyr o’r môr yn ei holl dymherau o’r budd mwyaf iddo, fel oedd yn amlwg ar unwaith yn ei gyfrol swmpus gyntaf, Ships and Seamen of Anglesey (1973) ac yn y gyfrol ddilynol, Porthmadog Ships (1975), astudiaeth o’r llongau ardderchog hynny a hwyliodd i bob rhan o’r byd. Roedd hefyd yn un o’r golygyddion a sefydlodd y cylchgrawn Cymru a’r Môr/Maritime Wales ym 1976.
Ehangwyd ei waith ymchwil yn Archifau Gwynedd pan etholwyd ef ym 1981 i Gymrodoriaeth Caird yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, gan gryfhau ei gysylltiadau â Basil Greenhill, Robin Craig ac arbenigwyr eraill. Buan y sylwodd ar elfennau tebyg rhwng gogledd-orllewin Cymru a chymunedau arforol eraill yn Scandinafia, arfordir gogledd-ddwyreiniol America a llefydd eraill. Yn Ventures in Sail (1987), gwaith pwysig arall, tynnodd sylw at y llyngesau o reolwyr llongau Cymreig wedi’u lleoli yn Lerpwl. Roedd ganddo ddawn naturiol ar y radio a’r teledu. Ym 1986, fe gyflwynodd y gyfres ffilmiau Tradewinds ar BBC2, mewn cydweithrediad â theledu Canada a’r Ffindir, ac roedd y gyfres honno a’r gyfres Halen yn y Gwaed yn Gymraeg yn rhai uchel eu clod.
Ni fu bywyd yn rhwydd iddo bob amser, ond hyd yn oed yn y dyddiau tywyll roedd yn ŵr llawn hwyl a hynny’n beth braf iawn i’w deulu ac i’r cylch mawr o ffrindiau a oedd ganddo. Am ddwy flynedd bu’n dioddef o ganser ac yn edrych ym myw llygad angau. Bu’n briod ddwywaith: gyda’i wraig gyntaf Hazel (née Phillips) cafodd ddwy ferch, a chyda’i ail wraig Freda (née Cale, a fu farw ym 1996) cafodd fab a dwy o ferch.
|
|
 |
Aled Eames
(Gerallt Llewellyn, Carmel, Caernarfon) |
|